PAPUR I GRONFA DDATBLYGU PWYLLGOR MENTER A BUSNES
CYMRU
Cyflwyniad
-
Mae cael mynediad i gyllid allanol ar gyfer dechrau busnes a
buddsoddi er mwyn sicrhau twf mewn BBaCh yn sylfaenol i dwf
economaidd cynaliadwy, ond wedi'i gyfyngu'n sylweddol ers dechrau'r
argyfwng ariannol. Yn 2012, comisiynwyd gwaith gennyf i
edrych ar sut y gall BBaCh yng Nghymru gael mynediad i
gyllid. O ganlyniad, trefnais astudiaeth ddichonoldeb o ran
creu Cronfa Ddatblygu i Gymru.
Ymarferoldeb creu Cronfa Ddatblygu i Gymru
-
Cafodd y Panel a gynhaliodd yr Astudiaeth Ddichonoldeb ei
gadeirio gan yr Athro Dylan Jones - Evans ac roeddwn yn falch o fod
wedi denu nifer o arbenigwyr a roddodd gyngor ar lefel uchel mewn
nifer o feysydd. Hoffwn ddiolch iddynt unwaith yn rhagor am
eu cyfraniadau unigol wrth gwblhau'r Astudiaeth.
-
Cyhoeddais Astudiaeth y Panel ar 10 Mawrth 2015. Mae'n
cynnig dadansoddiad manwl i edrych ar genhadaeth, swyddogaeth a
gweithrediadau posibl Cronfa Ddatblygu. Mae'n ystyried yr
achos strategol a'r opsiynau i fynd i'r afael â'r bwlch
cyllidoI, gan gynnig chwe dewis arall.
-
Prif egwyddor Cronfa Ddatblygu felly yw na ddylai ddisodli y
sector preifat ond mynd i'r afael â methiant y farchnad i
ddarparu cyllid i BBaCh. Er mwyn gwneud hyn yn llwyddiannus
mae'n rhaid iddi ymwneud â'r sector preifat i sicrhau bod
busnesau yn derbyn yr ateb mwyaf priodol o ran
cyllid.
-
Mae'r Astudiaeth hefyd yn edrych ar yr angen am gysylltiadau
agosach rhwng cynnig Llywodraeth Cymru o gymorth ariannol a'r
cymorth busnes sydd ar gael, yn ogystal ag edrych sut i sicrhau
lefelau uwch o gyllid o'r sector preifat. Mae hyn yn cyd-fynd
yn agos â chanfyddiadau gwaith Robert Lloyd Griffiths i
gysoni'r cymorth ariannol a'r cymorth nad yw'n ariannol ar gyfer
BBaChau.
Datblygiadau Diweddaraf
6.
Fel y cyhoeddais yn yr Astudiaeth, anfonais gopi at Gadeirydd
y Pwyllgor hwn a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid oherwydd ymholiad
cynharach. Rwy'n ymwybodol bod y Pwyllgor Cyllid wedi gofyn
am gyfle i wahodd yr Athro Jones - Evans a Robert Lloyd Griffiths i
fynychu un o'u sesiynau craffu yn y dyfodol.
7.
Gwneuthum Ddatganiad Llafar yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Mawrth,
yn gwahodd sylwadau gan yr Aelodau. Roeddwn yn falch â
lefel y diddordeb a'r cymorth ar draws y Siambr.
8.
Rwy'n edrych ymlaen at fynychu'r Pwyllgor Menter a Busnes
gyda'r Athro Jones- Evans a Robert Lloyd Griffiths ac at glywed
safbwyntiau'r Aelodau yn fwy manwl.